Psalms 69:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwared fi o'r dom, ac na soddwyf: gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o'r dyfroedd dyfnion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tynna fi allan o'r mwd yma. Paid gadael i mi suddo! Achub fi rhag y bobl sy'n fy nghasáu i — achub fi o'r dŵr dwfn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwared fi o'r llaid rhag imi suddo, achuber fi o'r mwd ac o'r dyfroedd dyfnion.