Psalms 69:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Amlach na gwallt fy mhen yw y rhai a'm casânt heb achos: cedyrn yw fy ngelynion diachos, y rhai a'm difethent: yna y telais yr hyn ni chymerais.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae mwy o bobl yn fy nghasáu i, nag sydd o flew ar fy mhen. Mae cymaint o bobl gelwyddog yn fy erbyn i, ac eisiau fy nistrywio i. Sut alla i roi yn ôl rywbeth dw i heb ei ddwyn?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Mwy niferus na gwallt fy mhen yw'r rhai sy'n fy nghasu heb achos; lluosocach na'm hesgyrn yw fy ngelynion twyllodrus. Sut y dychwelaf yr hyn nas cymerais?