Psalms 69:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na chywilyddier o'm plegid i y rhai a obeithiant ynot ti, Arglwydd DDUW y lluoedd: na waradwydder o'm plegid i y rhai a'th geisiant di, O DDUW Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Paid gadael i'r rhai sy'n dy drystio di fod â chywilydd ohono i, Feistr, ARGLWYDD holl-bwerus. Paid gadael i'r rhai sy'n dy ddilyn di gael eu bychanu, O Dduw Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Na fydded i'r rhai sy'n gobeithio ynot gael eu cywilyddio o'm plegid, O Arglwydd DDUW y Lluoedd, nac i'r rhai sy'n dy geisio gael eu gwaradwyddo o'm hachos, O Dduw Israel.