Psalms 84:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fy enaid a hiraetha, ie, ac a flysia am gynteddau yr ARGLWYDD: fy nghalon a'm cnawd a waeddant am y DUW byw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n hiraethu; ydw, dw i'n ysu am gael mynd i deml yr ARGLWYDD. Mae'r cyfan ohono i yn gweiddi'n llawen ar y Duw byw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn hiraethu, yn dyheu hyd at lewyg am gynteddau'r ARGLWYDD; y mae'r cyfan ohonof yn gweiddi'n llawen ar y Duw byw.