Psalms 88:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ai i'r meirw y gwnei ryfeddod? a gyfyd y meirw a'th foliannu di? Sela.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wyt ti'n gwneud gwyrthiau i'r rhai sydd wedi marw? Ydy'r meirw yn codi i dy foli di? Saib
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A wnei di ryfeddodau i'r meirw? A yw'r cysgodion yn codi i'th foliannu? Sela.