Psalms 93:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ARGLWYDD sydd yn teyrnasu, efe a wisgodd ardderchowgrwydd; gwisgodd yr ARGLWYDD nerth, ac ymwregysodd: y byd hefyd a sicrhawyd, fel na syflo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu! Mae wedi ei arwisgo'n hardd. Mae'r ARGLWYDD wedi ei arwisgo, a'i gryfder fel gwregys am ei ganol. Mae'r ddaear yn saff, a does dim modd ei symud!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r ARGLWYDD yn frenin; y mae wedi ei wisgo mawredd, y mae'r ARGLWYDD wedi ei wisgo, a nerth yn wregys iddo. Yn wir, y mae'r byd yn sicr, ac nis symudir;