Revelation 1:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ynghanol y seith canwyllbren, vn yn debic y Vab y duyn, gwedy ymwysgo a gwisc hed y draed a’ chwedi gwisco gwregis aur ynghylch y vrone.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac ynghanol y canhwyllbrennau, un tebyg i Fab y dyn, wedi ymwisgo â gwisg laes hyd Ei draed, ac wedi ymwregysu ynghylch Ei fronnau â gwregys aur;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac ynghanol y canwyllbrenni un tebyg i fab dyn, wedi ei wisgo hyd ei draed a’i wregysu at ei fronnau â gwregys aur.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yng nghanol y saith ganhwyllbren, un tebyg i Fab y dyn, wedi ymwisgo â gwisg laes hyd ei draed, ac wedi ymwregysu ynghylch ei fronnau â gwregys aur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn eu plith roedd “un oedd yn edrych fel person dynol.” Roedd yn gwisgo mantell hir oedd yn cyrraedd at ei draed a sash aur wedi ei rwymo am ei frest.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac yng nghanol y canwyllbrennau un fel mab dyn, a'i wisg yn cyrraedd hyd ei draed, a gwregys aur am ei ddwyfron.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac yng nghanol y saith ganwyllyr, un tebyg i fab dyn, wedi ymwisgo â gwisg laes hyd ei draed, ac wedi ymwregysu o gylch ei fronnau â gwregys aur.