Revelation 1:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A phan y gweles i ef, my a syrthies wrth y draed mal marw, ac ef a ddodoedd y law dehe arnaf, dan ddwedyd wrthyf, nac ofna: mi wyf y cyntaf a’r diwethaf,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan welais Ef, syrthiais wrth Ei draed, fel marw; a rhoddodd Efe Ei law ddehau arnaf, gan ddywedyd, Nac ofna, Myfi yw’r Cyntaf a’r Diweddaf,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan welais ef, syrthiais wrth ei draed fel un marw; gosododd yntau ei law ddeau arnaf a dywedyd, Nac ofna; myfi yw’r cyntaf a’r olaf
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welais ef, mi a syrthiais wrth ei draed ef fel marw. Ac efe a osododd ei law ddeau arnaf fi, gan ddywedyd wrthyf, Nac ofna; myfi yw'r cyntaf a'r diwethaf:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welais e, dyma fi'n llewygu wrth ei draed. Yna cyffyrddodd fi â'i law dde, a dweud wrtho i: “Paid bod ag ofn. Fi ydy'r Cyntaf a'r Olaf,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welais ef, syrthiais wrth ei draed fel un marw; gosododd yntau ei law dde arnaf, a dywedodd, "Paid ag ofni; myfi yw'r cyntaf a'r olaf,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan welais ef, syrthiais wrth ei draed ef fel un marw. Ac efe a osododd ei law ddehau arnaf fi, gan ddywedyd, Nac ofna, Myfi yw y Cyntaf a'r Diweddaf,