Revelation 1:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr hwn y dystolaethoedd o eir Dyw, ac o dystolaeth Iesu Christ, ac o pob peth ar y weloedd ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
i’w was Ioan, yr hwn a dystiolaethodd am air Duw a thystiolaeth Iesu Grist, am gymmaint o bethau ag a welodd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
tystiolaethodd yntau air Duw a thystiolaeth Iesu Grist, gymaint ag a welodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn a dystiolaethodd air Duw, a thystiolaeth Iesu Grist, a'r holl bethau a welodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a dw i'n gallu tystio fy mod i wedi gweld y cwbl sydd yma. Mae'n neges oddi wrth Dduw — yn dystiolaeth sydd wedi ei roi gan y Meseia Iesu ei hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tystiodd yntau i air Duw ac i dystiolaeth Iesu Grist, trwy adrodd y cwbl a welodd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn a dystiolaethodd am Air Duw ac am dystiolaeth Iesu Grist, sef am y fath bethau a welodd.