Revelation 1:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dirgelwch y seith seren y weleist yn vy llaw ðechre, a’r seith canwyllbren aur, yvv hyn, Y seith seren Angylion y seith Eglwys ydynt: ar seith canwyllbren y weleist, y seith Eglwys ydynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
dirgelwch y saith seren y rhai a welaist yn Fy llaw ddehau, a’r saith canhwyllbren aur. Y saith seren, angylion y saith eglwys ydynt; a’r saith ganhwyllbren, y saith eglwys ydynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dirgelwch y saith seren a welaist ar fy neheulaw, a’r saith ganhwyllbren aur — y saith seren yw angylion y saith eglwys, a’r saith ganhwyllbren, saith eglwys ydynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dirgelwch y saith seren a welaist yn fy llaw ddeau, a'r saith ganhwyllbren aur. Y saith seren, angylion y saith eglwys ydynt: a'r saith ganhwyllbren a welaist, y saith eglwys ydynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ystyr cudd y saith seren welaist ti yn fy llaw dde i a'r saith canhwyllbren aur ydy hyn: Mae'r saith seren yn cynrychioli arweinwyr y saith eglwys, a'r saith canhwyllbren yn cynrychioli'r saith eglwys.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma ystyr dirgel y saith seren a welaist ar fy llaw dde a'r saith ganhwyllbren aur: angylion y saith eglwys yw'r saith seren, a'r saith eglwys yw'r saith ganhwyllbren.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
dirgelwch y saith seren, y rhai a welaist yn fy llaw ddehau, a'r saith ganwyllyr aur. Y saith seren, angelion y saith eglwys ydynt; a'r saith ganwyllyr, y saith eglwys ydynt.