Revelation 1:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Happys ywr neb y ddarlleyo, ar rrei y wrandawāt geyriey y bryffodolaeth hon, ac y cadwant y pethey ysydd yn escrivenedic yndi: cans y maer amser gayr llaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dedwydd yw ’r hwn sy’n darllain, a’r rhai sy’n clywed geiriau y brophwydoliaeth, ac yn cadw y pethau sydd wedi eu hysgrifenu ynddi hi, canys yr amser sydd agos.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwyn ei fyd yr hwn sy’n darllen ar goedd a’r rhai sy’n gwrando geiriau’r broffwydoliaeth ac yn cadw’r pethau sy’n ysgrifenedig ynddi; canys y mae’r amser yn agos.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dedwydd yw'r hwn sydd yn darllen, a'r rhai sydd yn gwrando geiriau'r broffwydoliaeth hon, ac yn cadw y pethau sydd yn ysgrifenedig ynddi: canys y mae'r amser yn agos.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y person sy'n darllen y neges broffwydol hon i'r eglwys yn cael ei fendithio'n fawr. A hefyd pawb sy'n gwrando ar y neges yn cael ei darllen, ac yna'n gwneud beth mae'n ei ddweud. Mae'r amser pan fydd y cwbl yn digwydd yn agos.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwyn ei fyd y sawl sy'n darllen a'r rhai sy'n gwrando geiriau'r broffwydoliaeth hon ac yn cadw'r hyn sy'n ysgrifenedig ynddi. Oherwydd y mae'r amser yn agos.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dedwydd yw yr hwn sydd yn darllen, a'r rhai sydd yn gwrandaw geiriau y brophwydoliaeth, ac yn cadw y pethau sydd yn ysgrifenedig ynddi: canys y mae yr amser yn agos.