Revelation 1:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ioan, yr seith Eglwys ar ydynt yn Asia, Rrad vo gyd a chwi, a’ heðwch o dd iwrth yr Hwn ys ydd, yr Hwn vu, a’r Hwn vydd rrac llaw, ac o ddiwrth y seith Ysbryd y rrei ydynt gair bron y dron ef,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ioan, at y saith eglwys sydd yn Asia: Gras i chwi, a thangnefedd oddiwrth Yr Hwn sydd ac yr Hwn oedd ac yr Hwn sydd yn Dyfod, ac oddiwrth y saith Yspryd y sydd ger bron Ei orsedd-faingc;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ioan at y saith eglwys yn Asia: Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth yr hwn sydd a’r hwn oedd a’r hwn sydd yn dyfod, ac oddi wrth y saith ysbryd sydd gerbron ei orsedd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ioan at y saith eglwys sydd yn Asia: Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth yr hwn sydd, a'r hwn a fu, a'r hwn sydd ar ddyfod; ac oddi wrth y saith Ysbryd sydd gerbron ei orseddfainc ef;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ioan sy'n ysgrifennu, At y saith eglwys yn nhalaith Asia: Dw i'n gweddïo y byddwch yn profi haelioni rhyfeddol a heddwch dwfn gan Dduw, yr Un sydd, ac oedd ac sy'n mynd i ddod; gan yr Ysbryd cyflawn perffaith sydd o flaen yr orsedd;
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ioan at y saith eglwys yn Asia: gras a thangnefedd i chwi oddi wrth yr hwn sydd a'r hwn oedd a'r hwn sydd i ddod, ac oddi wrth y saith ysbryd sydd gerbron ei orsedd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ioan, at y saith eglwys sydd yn Asia: Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth YR HWN SYDD A'R HWN OEDD a'r HWN SYDD YN DYFOD, ac oddiwrth y Saith Yspryd sydd ger bron ei Orsedd ef,