Revelation 1:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac o ddiwrth Iesu Christ, yr hwn ys ydd tust ffyddlawn, yr enedigaeth cynta or meyrw, a Thywysog ddyvvch vrenhinoedd y ddayar, yddo ef yn caroedd ni, ac yn golchoedd ni oddiwrth yn pechodey yny waed, yhun,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac oddiwrth Iesu Grist, yr Hwn yw y Tyst ffyddlawn, Cyntafanedig y meirw, a Llywodraethwr brenhinoedd y ddaear. I’r Hwn sydd yn ein caru, ac a’n rhyddhaodd o’n pechodau trwy Ei waed;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac oddi wrth Iesu Grist, y tyst ffyddlon, y cyntaf-anedig o’r meirw a phennaeth brenhinoedd y ddaear. I’r hwn a’n câr ni ac a’n rhyddhaodd ni oddi wrth ein pechodau drwy ei waed,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac oddi wrth Iesu Grist, yr hwn yw y Tyst ffyddlon, y Cyntaf-anedig o'r meirw, a Thywysog brenhinoedd y ddaear. Iddo ef yr hwn a'n carodd ni, ac a'n golchodd ni oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a hefyd gan y Meseia Iesu, y tyst ffyddlon, y cyntaf i gael ei eni i fywyd newydd ar ôl marw, a'r un sydd ag awdurdod dros holl frenhinoedd y ddaear. Mae'n ein caru ni, ac mae wedi marw troson ni i'n gollwng ni'n rhydd fel bod pechod ddim yn ein rheoli ni ddim mwy.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac oddi wrth Iesu Grist, y tyst ffyddlon, y cyntafanedig oddi wrth y meirw a llywodraethwr brenhinoedd y ddaear. I'r hwn sydd yn ein caru ni ac a'n rhyddhaodd ni oddi wrth ein pechodau 'i waed,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac oddiwrth Iesu Grist, y Tyst ffyddlawn, Cyntaf‐anedig y meirw, a Llywodraethwr brenhinoedd y ddaear. Iddo ef yr hwn sydd yn ein caru ni, ac a'n rhyddhâodd ni oddiwrth ein pechodau trwy ei Waed;