Revelation 1:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn gwnaeth yn Vrēhinoeð ac yn Effeirieid y Ddyw y dad ef, yddo ef y bo gogoniant ac ymherodraeth yn oes oesoedd. Amen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gwnaeth ni yn frenhiniaeth, yn offeiriaid i Dduw a’i Dad Ef; Iddo Ef bydded y gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac a’n gwnaeth ni yn frenhiniaeth, yn offeiriaid i Dduw a’i Dad ef — iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd; Amen.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a'n gwnaeth ni yn frenhinoedd ac yn offeiriaid i Dduw a'i Dad ef; iddo ef y byddo'r gogoniant a'r gallu yn oes oesoedd. Amen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n teyrnasu droson ni ac wedi'n gwneud ni i gyd yn offeiriaid sy'n gwasanaethu Duw, ei Dad! Fe sy'n haeddu pob anrhydedd a nerth, am byth! Amen!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac a'n gwnaeth yn urdd frenhinol, yn offeiriaid i Dduw ei Dad, iddo ef y bo'r gogoniant a'r gallu byth bythoedd! Amen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac efe a'n gwnaeth ni yn Frenhiniaeth, yn offeiriaid i Dduw a'i Dâd ef: Iddo ef y byddo y gogoniant a'r nerth yn oes oesoedd, Amen.