Revelation 1:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dyna, y may ef yn dyvod gydar nywl, a’ phob llugad ae gwyl ef, ar rrei hefyd y brathasant ef tryvvodd: ac wylovain y wnant arno ef holl ceneloe dd y dayar, Velly y mae, Amen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wele, dyfod y mae gyda’r cymmylau; a’i weled Ef fydd i bob llygad, ac i’r rhai a’i gwanasant Ef; a galaru Trosto fydd i holl lwythau’r ddaear. Ië; Amen.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wele y mae’n dyfod gyda’r cymylau, a gwêl pob llygad ef, ie, y rhai a’i trywanodd, ac wylofain a wna holl Lwythau’r ddaear o’i herwydd. Ie’n wir, Amen.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, y mae efe yn dyfod gyda'r cymylau; a phob llygad a'i gwêl ef, ie, y rhai a'i gwanasant ef: a holl lwythau'r ddaear a alarant o'i blegid ef. Felly, Amen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Edrychwch! Mae'n dod yn y cymylau! Bydd pawb yn ei weld — hyd yn oed y rhai a'i trywanodd! Bydd pob llwyth o bobl ar y ddaear yn galaru o'i achos e. Dyna fydd yn digwydd! Amen!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wele, y mae'n dyfod gyda'r cymylau, a bydd pob llygad yn ei weld, ie, a'r rhai a'i trywanodd, a bydd holl lwythau'r ddaear yn galaru o'i blegid ef. Boed felly! Amen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wele y mae efe yn dyfod gyda'r cymylau, a phob llygad a'i gwêl ef, a'r rhai a'i gwanasant ef; a holl lwythau y ddaear a alarant am dano ef, Ië, Amen.