Revelation 1:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mi Ioan, ych brawd chwi, a chydynaith mewn cospedigaeth, ac yn y deyrnas ac mewn goddefaint Iesu Christ, oeddwn mewn ynys a elwir Patmos am ’eir Dyw, ac am dystolaeth yr Iesu Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Myfi Ioan, eich brawd a chyd-gyfrannog yn y gorthrymder a ’r deyrnas ac amynedd yn yr Iesu, oeddwn yn ynys a elwir Patmos, o achos gair Duw a thystiolaeth Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Myfi Ioan, eich brawd a’ch cyd-gyfranogwr yn y blinfyd a’r deyrnas a’r amynedd sydd drwy Iesu, oeddwn yn yr ynys a elwir Patmos o achos gair Duw a thystiolaeth Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Myfi Ioan, yr hwn wyf hefyd eich brawd, a'ch cydymaith mewn cystudd, ac yn nheyrnas ac amynedd Iesu Grist, oeddwn yn yr ynys a elwir Patmos, am air Duw, ac am dystiolaeth Iesu Grist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ioan ydw i, eich cyd-Gristion. Fel chi dw innau hefyd yn dioddef, ond am fod Duw yn teyrnasu, dw i'n dal ati fel gwnaeth Iesu ei hun. Roeddwn i wedi cael fy alltudio i Ynys Patmos am gyhoeddi neges Duw a thystiolaethu am Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddwn i, Ioan, eich brawd, sy'n cyfranogi gyda chwi o'r gorthrymder a'r frenhiniaeth a'r dyfalbarhad sydd i ni yn Iesu, ar yr ynys a elwir Patmos, ar gyfrif gair Duw a thystiolaeth Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Myfi Ioan, eich brawd chwi a chyd‐gyfranogwr yn y gorthrymder a'r frenhiniaeth a'r amynedd sydd yn Iesu, oeddwn yn yr Ynys a elwir Patmos o achos Gair Duw a thystiolaeth Iesu.