Revelation 10:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef y ddwad wrthyf, Reid yd proffwydo eilweith ymysc y bobloedd, ar nassioney, a’r ieithioedd, ac y lawer o Vrenhinoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedasant wrthyf, Y mae rhaid i ti drachefn brophwydo i bobloedd a chenhedloedd ac ieithoedd a brenhinoedd lawer.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedant wrthyf: Y mae’n rhaid iti drachefn broffwydo parthed pobloedd a chenhedloedd ac ieithoedd a brenhinoedd lawer.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Rhaid i ti drachefn broffwydo i bobloedd, a chenhedloedd, ac ieithoedd, a brenhinoedd lawer.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma nhw'n dweud wrtho i: “Rwyt ti i broffwydo eto yn erbyn llawer iawn o bobloedd, cenhedloedd, ieithoedd a brenhinoedd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedwyd wrthyf, "Rhaid iti broffwydo eto ynghylch pobloedd a chenhedloedd ac ieithoedd a brenhinoedd lawer."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y maent yn dywedyd wrthyf, Rhaid i ti brophwydo eto mewn perthynas i bobloedd a chenhedloedd ac ieithoedd a brenhinoedd lawer.