Revelation 10:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef y lefoedd a lleis ywchel, mal by bei llew yn rryo: a’ gwedy darfod yddo lefein, y seith twrwf y wneythont y lleisey.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gwaeddodd â llais mawr fel y mae llew yn rhuo; a phan waeddodd, adroddodd y saith daran eu lleisiau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a bloeddiodd â llais mawr fel llew yn rhuo. A phan floeddiodd, rhoes y saith daran eu llef hwythau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a lefodd â llef uchel, fel y rhua llew: ac wedi iddo lefain, y saith daran a lefarasant eu llefau hwythau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Galwodd allan yn uchel fel llew yn rhuo. Wrth iddo weiddi, clywyd sŵn saith taran.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna gwaeddodd llais uchel fel llew yn rhuo; a phan waeddodd, cododd y saith daran eu llef hwythau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a lefodd â llef uchel, fel y rhua llew; a phan lefodd, y saith daran a roddasant allan eu llefau eu hunain.