Revelation 10:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy darfod yr seith twrwf gwneythyr y lleysiey, yroeddwn ar veder scryvenny: ac my glyweis lleis or nef yn dwedyd wrthyf’, Sela’ r pethey y leisoedd y seith twrwf, ac na scryvenna hwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan adroddodd y saith daran eu lleisiau, yr oeddwn ar fedr ysgrifenu, a chlywais lais o’r nef yn dywedyd, Selia y pethau a adroddodd y saith daran, ac nac ysgrifena hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan lefodd y saith daran yr oeddwn ar fedr ysgrifennu; a chlywais lais o’r nef yn dywedyd: Selia’r pethau a lefarodd y saith daran, ac nac ysgrifenna hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi darfod i'r saith daran lefaru eu llefau, yr oeddwn ar fedr ysgrifennu: ac mi a glywais lef o'r nef yn dywedyd wrthyf, Selia'r pethau a lefarodd y saith daran, ac nac ysgrifenna hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywyd sŵn y saith taran, roeddwn ar fin ysgrifennu'r cwbl i lawr, ond clywais lais o'r nefoedd yn dweud, “Cadw beth mae'r saith taran wedi ei ddweud yn gyfrinach; paid meiddio'i ysgrifennu i lawr!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wedi i'r saith daran lefaru, yr oeddwn ar fin ysgrifennu; ond clywais lais o'r nef yn dweud, "Gosod y pethau a lefarodd y saith daran dan sl; paid 'u hysgrifennu."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan lefarodd y saith daran, yr oeddwn ar ysgrifennu, a chlywais lais o'r nef yn dywedyd, Selia y pethau a lefarodd y saith daran, ac nac ysgrifenna hwynt.