Revelation 10:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac y dyngodd mewn yr vn ysydd yn byw yn dragowydd, yr hwn y creoedd y nef, ar pethey ydynt ynddo ef, ar ddayar ar pethey ydynt ynðy hi, ar mor ar pethey ydynt ynddo ef, na vyddey Amser rrac llaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a thyngodd i’r Hwn sydd yn byw yn oes oesodd, yr Hwn a greodd y nef a’r pethau sydd ynddi, a’r ddaear a’r pethau sydd ynddi, a’r môr a’r pethau sydd ynddo, Amser ni fydd mwyach;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a thyngodd yn enw’r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, a greodd y nef a’r pethau ynddi, y tir a’r pethau ynddo, a’r môr a’r pethau ynddo, na byddai oedi mwyach,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a dyngodd i'r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, yr hwn a greodd y nef a'r pethau sydd ynddi, a'r ddaear a'r pethau sydd ynddi, a'r môr a'r pethau sydd ynddo, na byddai amser mwyach:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth ar lw yn enw yr Un sy'n byw byth bythoedd, yr un a greodd yr awyr a'r ddaear a'r môr a phopeth sydd ynddyn nhw. Dwedodd: “Fydd dim mwy o oedi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac yn tyngu yn enw'r hwn sydd yn byw byth bythoedd, yr hwn a greodd y nef a'r pethau sydd ynddi, y tir a'r pethau sydd ynddo, a'r mr a'r pethau sydd ynddo. Dywedodd: "Ni bydd oedi mwy;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a dyngodd i'r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, yr hwn a greodd y nef a'r pethau sydd ynddi, a'r ddaear, a'r pethau sydd ynddi, a'r môr a'r pethau sydd ynddo, Ni fydd oediad mwyach;