Revelation 10:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ond yn nyddiey lleis y seithfed Angel, pan ðechreyo ef gany ar trwmpet, ddyweddy y wneir dirgelwch Ddyw, mal y ddatcanoedd ef yddy wasnaethwyr y proffwydi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eithr yn nyddiau llais y seithfed angel, pan fo ar fedr udganu, yna y gorphenwyd dirgelwch Duw, fel yr efengylodd i’w weision Ei hun, y prophwydi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
eithr yn nyddiau llef y seithfed angel, pan fyddai ar fedr utganu, yna y deuai i ben ddirgelwch Duw yn ôl y newyddion da a fynegodd ef i’w weision y proffwydi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yn nyddiau llef y seithfed angel, pan ddechreuo efe utganu, gorffennir dirgelwch Duw, fel y mynegodd efe i'w wasanaethwyr y proffwydi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan fydd y seithfed angel yn canu ei utgorn, bydd cynllun dirgel Duw wedi ei gyflawni, yn union fel roedd wedi dweud wrth ei weision y proffwydi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond yn nyddiau sain yr utgorn y mae'r seithfed angel i'w seinio, bydd bwriad dirgel Duw wedi ei ddwyn i ben, yn unol 'r newyddion da a gyhoeddodd i'w weision, y proffwydi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr yn nyddiau llef y seithfed angel pan mae efe ar fedr udganu, y gorphennir hefyd ddirgelwch Duw, fel yr efengylodd efe i'w weision ei hun, y prophwydi.