Revelation 10:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar lleis y glyweis or nef, y c hwedleyoedd eilweith a mi, ac y ddwad, Cerdda, cymer, y llyfyr‐bechan ysydd yn llaw’r Angel, yr hwn ysydd yn sefyll ar y mor ac ar y tir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r llais yr hwn a glywais o’r nef, a glywais drachefn yn llefaru wrthyf, ac yn dywedyd, Dos, cymmer y llyfr sydd yn agored yn llaw yr angel y sy’n sefyll ar y môr ac ar y tir.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna y llef, a glywais o’r nef, ymddiddanai drachefn â mi a dywedyd: Dos, cymer y llyfr sy’n agored yn llaw yr angel a saif ar y môr ac ar y tir.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r llef a glywais o'r nef, a lefarodd drachefn wrthyf, ac a ddywedodd, Dos, cymer y llyfr bychan sydd wedi ei agoryd yn llaw'r angel yr hwn sydd yn sefyll ar y môr, ac ar y tir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r llais o'r nefoedd yn siarad â mi unwaith eto: “Dos at yr angel sy'n sefyll ar y môr a'r tir, a chymer y sgrôl fach agored sydd ganddo yn ei law.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna'r llais a glywais o'r nef, fe'i clywais eto'n llefaru wrthyf gan ddweud, "Dos a chymer y sgrl sy'n agored yn llaw'r angel sy'n sefyll ar y mr ac ar y tir."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r llef yr hon a glywais o'r nef, a glywais drachefn yn llefaru wrthyf, ac yn dywedyd, Dos, cymer y Llyfr bychan sydd yn agored yn llaw yr angel sydd yn sefyll ar y môr ac ar y tir.