Revelation 10:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi eythym at yr Angel, dan ddwedyd wrtho, Dyrro y mi y Llyfr‐bychan. Ac ynte y ddwad wrihyfi, Eymer, a llynca ef ac ef, y c wherwa dy vol a di, ond ef y vydd melys yn dy eney di mal mel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac aethum at yr angel, gan ddywedyd wrtho roddi i mi y llyfr bychan. A dywedodd wrthyf, Cymmer a bwytta ef; a chwerwa efe dy fol di, eithr yn dy enau y bydd felus fel mel.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac euthum at yr angel gan ofyn iddo roddi i mi ’r llyfryn. A dywed wrthyf: Cymer a bwyta ef, a chwerwa ef dy fol, ond yn dy enau bydd yn felys fel mêl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a euthum at yr angel, gan ddywedyd wrtho, Moes i mi'r llyfr bychan. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Cymer, a bwyta ef yn llwyr: ac efe a chwerwa dy fol di, eithr yn dy enau y bydd yn felys fel mêl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma fi'n mynd at yr angel ac yn gofyn iddo roi y sgrôl fechan i mi. Dyma'r angel yn dweud: “Cymer hi, a bwyta hi. Bydd yn troi'n chwerw yn dy stumog, ond bydd yn felys fel mêl yn dy geg.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Euthum at yr angel a dweud wrtho am roi'r sgrl fechan imi, ac atebodd fi: "Cymer a bwyta hi; fe fydd hi'n chwerw i'th gylla, ond yn felys fel ml yn dy enau."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac aethum ymaith at yr angel, gan ddywedyd wrtho roddi i mi y Llyfryn bychan. A dywed wrthyf, Cymer a bwyta ef; ac efe a chwerwa dy fòl di, eithr yn dy enau y bydd felus fel mêl.