Revelation 11:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
YNo yroed corsen y mi, yn debic y wialen, ar Angel y safoedd gair vy llaw, ac y ddwad, Cyfod, a’ mesyr temel Ddyw a’r allawr, ar rei ydynt yn addoli yndi hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A rhoddwyd i mi gorsen debyg i wialen, a dywedodd, Cyfod, a mesura deml Dduw, a’r allor, a’r rhai sy’n addoli ynddi;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhoddwyd imi gorsen debyg i ffon, gan ddywedyd: Cyfod a mesur gysegr Duw a’r allor a’r addolwyr yno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhoddwyd imi gorsen debyg i wialen. A'r angel a safodd, gan ddywedyd, Cyfod, a mesura deml Dduw, a'r allor, a'r rhai sydd yn addoli ynddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma wialen hir fel ffon fesur yn cael ei rhoi i mi, a dwedwyd wrtho i, “Dos i fesur teml Dduw a'r allor, a hefyd cyfri faint o bobl sy'n addoli yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddwyd imi wialen yn ffon fesur, a dywedwyd wrthyf: "Cod a mesura deml Duw a'r allor a'r addolwyr ynddi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhoddwyd i mi gorsen debyg i wialen, a dywedodd, Cyfod, a mesura Gysegr Duw, a'r Allor, a'r rhai sydd yn addoli ynddo.