Revelation 11:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar rrei ydynt yn trigo ar y ðayar, y lawenhant arnynt hwy, ac y vyddant siriys, ac y ddanfonant rroddion pawb at y gilydd: cans y ddoy broffwyd yma, y anesmwythoedd ar y rrei oyddent yn trigio ar y ddayar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r rhai sy’n trigo ar y ddaear, llawenychu y maent trostynt ac yn ymhyfrydu, a rhoddion a ddanfonant i’w gilydd, canys y rhai hyn, y ddau brophwyd, a boenasant y rhai oedd yn trigo ar y ddaear.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A llawenha preswylwyr y ddaear o’u plegid ac ymfalchïant, ac anfonant roddion i’w gilydd, oherwydd poenodd y ddau broffwyd hyn breswylwyr y ddaear.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear a lawenychant o'u plegid, ac a ymhyfrydant, ac a anfonant roddion i'w gilydd; oblegid y ddau broffwyd hyn oedd yn poeni'r rhai oedd yn trigo ar y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y bobl sy'n perthyn i'r ddaear wrth eu bodd ac yn dathlu a rhoi anrhegion i'w gilydd, am fod y ddau broffwyd yma wedi bod cymaint o boen iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A llawenha trigolion y ddaear trostynt a gorfoleddant, gan anfon rhoddion i'w gilydd; oherwydd bu'r ddau broffwyd hyn yn boenedigaeth i drigolion y ddaear.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r rhai a drigant ar y ddaear a lawenychant drostynt, ac a ymddifyrrant; ac y maent yn danfon rhoddion i'w gilydd; oblegyd y ddau brophwyd hyn a boenasant y rhai oedd yn trigo ar y ddaear.