Revelation 11:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn yr awr hono yrydoedd crynva vawr ar y ddayar, ar ðecfed rran or dinas y syrth ioedd y lavvr, a’ seith mil o wyr y las yn c h rynfar ddaya’r: a’r gweddilion a ofna sa nt ac y rro yso nt ’ogoniant y Ddyw nef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn yr awr honno y digwyddodd daear-gryn mawr, a’r ddegfed ran o’r ddinas a syrthiodd; a lladdwyd yn y daear-gryn nifer enwau’r bobl, saith mil; a’r lleill a aethant yn frawychus, a rhoisant ogoniant i Dduw’r nef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r awr honno bu daeargryn mawr, a syrthiodd ’y ddegfed ran o’r ddinas, a lladdwyd yn y ddaeargryn saith mil o bersonau, a brawychodd y gweddill a rhoddasant ogoniant i Dduw’r nef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn yr awr honno y bu daeargryn mawr, a degfed ran y ddinas a syrthiodd; a lladdwyd yn y ddaeargryn saith mil o wŷr: a'r lleill a ddychrynasant, ac a roddasant ogoniant i Dduw y nef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y funud honno buodd daeargryn mawr a chafodd un rhan o ddeg o'r ddinas ei dinistrio. Cafodd saith mil o bobl eu lladd gan y daeargryn. Roedd pawb oedd yn dal yn fyw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n dechrau clodfori Duw'r nefoedd mewn panig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr awr honno bu daeargryn mawr, a syrthiodd y ddegfed ran o'r ddinas. Lladdwyd saith mil o bobl yn y daeargryn, a brawychwyd y gweddill a rhoesant ogoniant i Dduw'r nef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn yr awr honno y bu daeargryn mawr, a degfed ran y ddinas a syrthiodd; a lladdwyd yn y ddaear‐gryn saith mil o ddynion: a'r lleill a aethant yn ofnus, ac a roddasant ogoniant i Dduw y nef.