Revelation 11:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r seithfed Angel y ganoedd ar trwmpet, a lleisey mawr y wneythpwyd yn y nef, dan dwedyd, Yn harglwydd ni ae grist ef y pieffant tyrnasoedd y bud hwn, ac ef y dyrnassa yn oes oesoedd..
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r seithfed angel a udganodd, a bu lleisiau mawrion yn y nef, yn dywedyd, Aeth teyrnas y byd yn deyrnas ein Harglwydd a’i Grist, a theyrnasa Efe yn oes oesoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac utganodd y seithfed angel; yna bu lleisiau uchel yn y nef yn dywedyd: Aeth brenhiniaeth y byd yn eiddo ein Harglwydd ni a’i Grist ef, a theyrnasa yn oes oesoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r seithfed angel a utganodd; a bu llefau uchel yn y nef, yn dywedyd, Aeth teyrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni, a'i Grist ef; ac efe a deyrnasa yn oes oesoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r seithfed angel yn canu utgorn, ac roedd lleisiau uchel yn y nefoedd yn dweud: “Mae teyrnas y byd wedi dod yn deyrnas ein Harglwydd a'i Feseia, a bydd yn teyrnasu am byth bythoedd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Seiniodd y seithfed angel ei utgorn. Yna bu lleisiau uchel yn y nef yn dweud: "Aeth brenhiniaeth y byd yn eiddo ein Harglwydd ni a'i Grist ef, a bydd yn teyrnasu byth bythoedd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r seithfed angel a udganodd, a bu llefau uchel yn y nef, yn dywedyd, Aeth Teyrnas y Byd yn Deyrnas ein Harglwydd ni a'i Grist Ef; ac efe a deyrnasa yn oes oesoedd.