Revelation 11:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dan ddwedyd, Yrydym yn diolch ytti, Arglwyð Ddyw hollallyawc, yr Hwn wyd, yr Hwn oyddyd, ac yr Hwn y ddaw: cans ti dderbyneist dy ally mawr, ac y deyrnaseist.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac a addolasant Dduw, gan ddywedyd, Diolchwn i Ti, Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, yr Hwn ydyw ac yr Hwn oedd, oblegid cymmeryd o Honot Dy allu mawr, a theyrnasu;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ddywedyd: Diolchwn i ti, Arglwydd Dduw hollalluog, yr hwn sydd a’r hwn oedd, am ymaflyd ohonot yn dy fawr allu a theyrnasu;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd, Yr ydym yn diolch i ti, O Arglwydd Dduw Hollalluog, yr hwn wyt, a'r hwn oeddit, a'r hwn wyt yn dyfod; oblegid ti a gymeraist dy allu mawr, ac a deyrnesaist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
gan ddweud: “Diolch i ti, Arglwydd Dduw Hollalluog, yr Un sydd ac oedd, am gymryd yr awdurdod sydd gen ti a dechrau teyrnasu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gan ddweud: "Yr ydym yn diolch i ti, O Arglwydd Dduw hollalluog, yr hwn sydd a'r hwn oedd, am iti feddiannu dy allu mawr a dechrau teyrnasu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ddywedyd, Diolchwn i ti, Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, Yr Hwn Ydyw, a'r Hwn Oedd, Oblegyd cymeryd o honot dy allu mawr, a theyrnasu;