Revelation 11:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar Cenetloeð y lidiasant, ath lid ti y ddeyth, ac amser y varny’r merw, ac y yrroi gobrwy yth wasnaethwyr, y prophwydi, a’r Seinct, ac yr rrei y ofnoedd dy Enw, bychein, a’ mawr, ac bot yty golli y rrein, ar ydynt yn dinystr y ddayar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’r cenhedloedd a ddigiasant; a daeth Dy ddig, ac amser y meirw i’w barnu, a’r amser i roi eu gwobr i’th weision y prophwydi a’r saint a’r rhai sy’n ofni Dy enw, y bychain a’r mawrion, ac i ddifetha’r rhai sy’n difetha’r ddaear.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a llidiodd y cenhedloedd, a daeth dy lid di ac adeg barnu’r meirw a rhoddi’r wobr i’th weision y proffwydi ac i’r saint ac i’r sawl sy’n ofni dy enw, y bychain a’r mawrion, ac i ddinistrio dinistrwyr y ddaear.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r cenhedloedd a ddigiasant; a daeth dy ddig di, a'r amser i farnu'r meirw, ac i roi gwobr i'th wasanaethwyr y proffwydi, ac i'r saint, ac i'r rhai sydd yn ofni dy enw, fychain a mawrion; ac i ddifetha'r rhai sydd yn difetha'r ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y cenhedloedd wedi gwylltio; ond nawr mae'n amser i ti fod yn ddig. Mae'r amser wedi dod i farnu y rhai sydd wedi marw, ac i wobrwyo dy weision y proffwydi a'th bobl dy hun, a'r rhai sy'n parchu dy enw di, yn fawr a bach — a hefyd i ddinistrio'n llwyr y rhai hynny sy'n dinistrio'r ddaear.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Llidiodd y cenhedloedd, a daeth dy ddigofaint ac amser barnu'r meirw, a rhoi eu gwobr i'th weision y proffwydi, ac i'r saint ac i'r rhai sy'n ofni dy enw, yn fach a mawr, yr amser i ddinistrio'r rhai sy'n dinistrio'r ddaear."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Cenhedloedd a lidiasant, a daeth dy lid di, A thymor y meirw i gael eu barnu: I roddi eu gwobr i'th weision y prophwydi, ac i'th saint, Ac i'r rhai sydd yn ofni dy enw, fychain a mawrion, Ac i ddyfetha y rhai sydd yn dyfetha y ddaear.