Revelation 11:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A themel Dyw oeð yn agored yn y nef, ac arch y Testament ef y welspwyd yny demel, ac yroyddent mellt, a’ lleisiey, a’ tharaney, a chrynfa’r ddayar, a chenllysc mawr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac agorwyd teml Dduw, yr hon sydd yn y nef, a gwelwyd arch Ei gyfammod yn Ei deml; a bu mellt a lleisiau a tharanau a daear-gryn a chenllysg mawr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac agorwyd teml Dduw sydd yn y nef, a gwelwyd arch ei gyfamod ef yn ei deml, a bu mellt a lleisiau a tharanau a daeargryn a chenllysg mawr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac agorwyd teml Dduw yn y nef; a gwelwyd arch ei gyfamod ef yn ei deml ef: a bu mellt, a llefau, a tharanau, a daeargryn, a chenllysg mawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma ddrysau teml Dduw yn y nefoedd yn agor, ac roedd modd gweld arch yr ymrwymiad y tu mewn iddi. Ac roedd mellt a sŵn taranau a daeargryn a storm fawr o genllysg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Agorwyd teml Duw yn y nef, a gwelwyd arch ei gyfamod yn ei deml ef; yna bu fflachiadau mellt a su373?n taranau a daeargryn a chenllysg mawr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna yr agorwyd Cysegr Duw, yr hwn sydd yn y nef; a gwelwyd Arch ei Gyfamod ef yn ei Gysegr; a bu mellt, a llefau, a tharanau, a daeargryn, a chenllysg mawr.