Revelation 11:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar cyntedd yssydd or ty allan yr demel, bwrw allan, ac na vesyr ef: canys ef y rroed yr Cenetloedd, ac hwy y sathrant dan draed y dinas santeidd doy vis a deigen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac y cyntedd y sydd o’r tu allan i’r deml, bwrw allan; ac ef na fesura, canys rhoddwyd ef i’r cenhedloedd, a’r ddinas sanctaidd a fathrant ddeufis a deugain.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r cyntedd tu allan i’r cysegr gad allan, na fesur hwnnw; canys rhoddwyd ef i’r ethnig, a’r ddinas sanctaidd a fathrant ddeufis a deugain.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond y cyntedd sydd o'r tu allan i'r deml, bwrw allan, ac na fesura ef; oblegid efe a roddwyd i'r Cenhedloedd: a'r ddinas sanctaidd a fathrant hwy ddeufis a deugain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond paid cynnwys y cwrt allanol, am fod hwnnw wedi ei roi i bobl o genhedloedd eraill. Byddan nhw'n cael rheoli'r ddinas sanctaidd am bedwar deg dau mis.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond anwybydda gyntedd allanol y deml; paid mesur hwnnw, oherwydd fe'i rhoddwyd i'r Cenhedloedd, ac fe sathrant hwy'r ddinas sanctaidd am ddeufis a deugain.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r cyntedd sydd o'r tu allan i'r Cysegr gâd allan, ac na fesura ef; canys rhoddwyd ef i'r cenhedloedd, a'r Ddinas Sanctaidd a fathrant hwy ddeufis a deugain.