Revelation 11:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi rrof‐ allu ym doy dyst, ac hwy y prophwydant mil o ðiwarnodey a thrigen a doycant, gwedy ey ymwisco a llien‐sache.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A rhoddaf i’m dau dyst, a phrophwydant fil a deucant a thrugain o ddyddiau, wedi ymwisgo â sach-liain.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhoddaf i’m dau dyst broffwydo fil deucant a thrigain o ddyddiau a sachliain amdanynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a roddaf allu i'm dau dyst, a hwy a broffwydant fil a deucant a thri ugain o ddyddiau wedi ymwisgo â sachliain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna bydda i'n rhoi awdurdod i'r ddau dyst sydd gen i, a byddan nhw'n gwisgo sachliain ac yn proffwydo am fil dau gant a chwe deg diwrnod.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac fe roddaf i'm dau dyst gennad i broffwydo mewn gwisg sachliain am y deuddeg cant a thrigain hyn o ddyddiau."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhoddaf i'm Dau Dyst, a hwy a brophwydant fil a deucant a thri‐ugain o ddyddiau, wedi ymwisgo â sachlian.