Revelation 11:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac os ewyllysa vn y clwyfo hwynt, y mae tan yn mynd allan oe geneye ynthwy, ac y ddinystr y digasogion: ac os ewylllysa vn duyn y clwyso hwynt, mal hyn y lleddir ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac os iddynt hwy yr ewyllysia neb wneuthur niweid, tân sy’n myned allan o’u genau, ac yn bwytta eu gelynion; ac os rhyw un a ewyllysia eu niweidio hwynt, fel hyn y mae’n rhaid iddo gael ei ladd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os myn neb eu niweidio, daw tân allan o’u genau a difa eu gelynion. Ac os myn neb eu niweidio, fel hynny rhaid yw ei ladd ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os ewyllysia neb wneuthur niwed iddynt, y mae tân yn myned allan o'u genau hwy, ac yn difetha eu gelynion: ac os ewyllysia neb eu drygu hwynt, fel hyn y mae'n rhaid ei ladd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os oes rhywun yn ceisio gwneud niwed iddyn nhw, mae tân yn dod allan o'u cegau ac yn dinistrio eu gelynion. Dyna sut mae unrhyw un sydd am wneud niwed iddyn nhw yn marw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os myn unrhyw un wneud niwed iddynt, daw tn allan o'u genau a difa'u gelynion; yn y modd hwn y bydd yn rhaid lladd unrhyw un a fyn wneud niwed iddynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os ewyllysia neb wneuthur niwed iddynt, y mae tân yn myned allan o'u genau hwy, ac yn difa eu gelynion: ac os ewyllysia neb eu niweidio hwynt, fel hyn y mae yn rhaid iddo gael ei ladd.