Revelation 11:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gallu y sydd gan yrrein y gayed y nef, rrac’ yddi’lawio yn nyddiey y pryffodolaeth hwynt, a’ gallu y sydd ganthynt ar y dyfroedd y troi hwynt yn waed, ac y daro’r ddayar a phob pla, cyn vynyched ac y mynnont.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y rhai hyn sydd a chanddynt y gallu i gau’r nef fel na bo gwlaw yn gwlawio am ddyddiau eu prophwydoliaeth; a gallu sydd ganddynt ar y dyfroedd, i’w troi hwynt yn waed, ac i daro’r ddaear â phob pla, cyn fynyched ag y mynnont.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae gan y rhai hyn awdurdod i gloi’r nef fel na fwrio law dros ddyddiau eu proffwydo hwynt, ac y mae ganddynt awdurdod ar y dyfroedd i’w troi’n waed ac i daro’r ddaear â phob rhyw bla mor aml ag y mynnont.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae gan y rhai hyn awdurdod i gau'r nef, fel na lawio hi yn nyddiau eu proffwydoliaeth hwynt: ac awdurdod sydd ganddynt ar y dyfroedd, i'w troi hwynt yn waed, ac i daro'r ddaear â phob pla, cyn fynyched ag y mynnont.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw wedi cael yr awdurdod i wneud iddi beidio glawio yn ystod y cyfnod pan maen nhw'n proffwydo; ac mae ganddyn nhw'r gallu i droi dyfroedd yn waed ac i daro'r ddaear â phlâu mor aml â maen nhw eisiau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae gan y rhain awdurdod i gau'r nefoedd fel na bydd i law syrthio yn ystod dyddiau eu proffwydo, ac y mae ganddynt awdurdod ar y dyfroedd i'w troi'n waed ac i daro'r ddaear phob pla mor aml ag y mynnant.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae gan y rhai hyn y gallu i gau y nef, fel na wlawio hi yn nyddiau eu prophwydoliaeth hwynt; ac y mae gallu ganddynt ar y dyfroedd, i'w troi hwynt yn waed, ac i daro y ddaear â phob pla, cyn fynyched ag y mynnont.