Revelation 11:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ddarffo yddynt cwplay y tustolaeth, yr enifel y ddaw allan or pwll heb waylod, y rryfela yny herbyn hwy, ac y gortrecha hwynt, ac y lladd hwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan ddarffo iddynt orphen eu tystiolaeth, y bwystfil y sy’n esgyn allan o affwys a wna ryfel â hwynt, ac a’u gorchfyga, ac a’u lladd:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan orffennont eu tystiolaeth, rhyfela’r bwystfil a gyfyd o Annwn yn eu herbyn a gorchfyga hwynt a’u lladd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddarfyddo iddynt orffen eu tystiolaeth, y bwystfil, yr hwn sydd yn dyfod allan o'r pwll diwaelod, a ryfela â hwynt, ac a'u gorchfyga hwynt, ac a'u lladd hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan fydd yr amser iddyn nhw dystio ar ben, bydd yr anghenfil sy'n dod allan o'r pwll diwaelod yn ymosod arnyn nhw, ac yn eu trechu a'u lladd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddynt orffen eu tystiolaeth, bydd y bwystfil sy'n codi o'r dyfnder yn rhyfela yn eu herbyn, yn eu gorchfygu a'u lladd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan orphennont eu tystiolaeth, yr Anghenfil, yr hwn sydd yn dyfod i fyny o Annwn, a wna ryfel â hwynt, ac a'u gorchfyga hwynt, ac a'u lladd hwynt;
Recommended Reading