Revelation 11:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac vvy or bobloedd, ar genedlaythey, ar ieithoedd, ar Cenetloedd y welant y cyrff hwynt tridie y a’ haner, ac ny ddioddefant rroi y cyrff hwynt mewn beddey.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac edrych y mae rhai o’r bobloedd a llwythau ac ieithoedd a chenhedloedd, ar eu cyrph dridiau a hanner, ac i’w cyrph ni adawant eu rhoddi mewn bedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac edrychir ar eu cyrff hwynt dri diwrnod a hanner gan bobloedd a llwythau ac ieithoedd a chenhedloedd, ac ni chaniatânt ddodi eu cyrff hwynt mewn bedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhai o'r bobloedd, a'r llwythau, a'r ieithoedd, a'r cenhedloedd, a welant eu cyrff hwynt dridiau a hanner, ac ni oddefant roi eu cyrff hwy mewn beddau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Am dri diwrnod a hanner bydd pobl o bob hil, llwyth, iaith a chenedl yn edrych ar eu cyrff ac yn gwrthod eu claddu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am dri diwrnod a hanner, bydd rhai o blith pobloedd a llwythau ac ieithoedd a chenhedloedd yn edrych ar eu cyrff ac yn gwrthod eu rhoi mewn bedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac edrychant o blith y bobloedd, a'r llwythau, a'r ieithoedd, a'r cenhedloedd, ar eu corph marw am dridiau a hanner; ac ni chaniatânt osod eu cyrph hwynt mewn bedd.