Revelation 12:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno mi glyweis lleis ywchel, yn dwedyd, Yrowron y mae iechid yn y nef, a’ grym, a thyrnas yn Dyw ni, a gallu y Grist ef: can ys cyhyddwr yn brodyr ni y vwrwyd yr llawr, yr hwn ydoedd yn y cyhyðo hwynt gair bron yn Dyw dydd a’nos.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chlywais lais mawr yn y nef, yn dywedyd, Yn awr y daeth yr iachawdwriaeth a’r gallu a theyrnas ein Duw, ac awdurdod Ei Grist, canys bwriwyd i’r llawr gyhuddwr ein brodyr, yr hwn sydd yn eu cyhuddo ger bron ein Duw ddydd a nos;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna clywais lais mawr yn y nef yn dywedyd: Yn awr y daeth iachawdwriaeth a gallu a brenhiniaeth ein Duw ni ac awdurdod ei Grist ef, canys bwriwyd i lawr gyhuddwyr ein brodyr, sy’n eu cyhuddo gerbron ein Duw ddydd a nos.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a glywais lef uchel yn dywedyd yn y nef, Yr awron y daeth iachawdwriaeth, a nerth, a theyrnas ein Duw ni, a gallu ei Grist ef: canys cyhuddwr ein brodyr ni a fwriwyd i'r llawr, yr hwn oedd yn eu cyhuddo hwy gerbron ein Duw ni ddydd a nos.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna clywais lais uchel yn y nefoedd yn dweud: “Mae Duw wedi achub, cymryd y grym, a dod i deyrnasu, ac mae'r awdurdod gan ei Feseia. Oherwydd mae cyhuddwr y brodyr a'r chwiorydd (yr un oedd yn eu cyhuddo nhw o flaen Duw ddydd a nos), wedi cael ei hyrddio i lawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna clywais lais uchel yn y nef yn dweud: "Hon yw awr gwaredigaeth a gallu a brenhiniaeth ein Duw ni, ac awdurdod ei Grist ef, oherwydd bwriwyd i lawr gyhuddwr ein cymrodyr, yr hwn sy'n eu cyhuddo gerbron ein Duw ddydd a nos.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chlywais lef fawr yn y nef, yn dywedyd, Yn awr y daeth yr iachawdwriaeth a'r gallu, a Theyrnas ein Duw, ac awdurdod ei Grist ef; canys bwriwyd i lawr gyhuddwr ein brodyr, yr hwn sydd yn eu cyhuddo hwy ger bron ein Duw ni ddydd a nos.