Revelation 12:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan gwelas y ddreic y vwrw yr ðayar, ymlid y wnaeth ef y wreic y ddygoedd y mab yr byd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan welodd y ddraig y bwriwyd hi i’r ddaear, erlidiodd y wraig a esgorodd ar y gwrryw,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan welodd y ddraig ei bwrw i’r ddaear, ymlidiodd ar ôl y wraig a esgorasai ar y plentyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd y ddraig ei bwrw i'r ddaear, hi a erlidiodd y wraig a esgorasai ar y mab.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan sylweddolodd y ddraig ei bod wedi cael ei hyrddio i'r ddaear dyma hi'n erlid ar ôl y wraig oedd wedi rhoi genedigaeth i'r bachgen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd y ddraig ei bod wedi ei bwrw i'r ddaear, aeth i erlid y wraig a esgorodd ar y plentyn gwryw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan welodd y Ddraig ei bwrw i'r ddaear, hi a erlidiodd y Wraig a esgorasai ar y plentyn gwrryw.