Revelation 12:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A dwy adein eryr mawr y rroed yr wreic, yddi hedfan yr diffeth, yddy lle, ddys yny magi hi dros amser, ac amseroedd, ac hanner amser, rrac wyneb y sarph.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a rhoddwyd i’r wraig ddwy aden yr eryr mawr, fel yr ehedai i’r anialwch, i’w lle, lle y porthir hi yno am amser ac amseroedd a hanner amser, oddiwrth wyneb y sarph.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhoddwyd i’r wraig ddwy adain eryr mawr fel yr ehedai i’r anialwch, i’w lle ei hun, i’w hymgeleddu yno am amser ac amserau a hanner amser o olwg y sarff.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhoddwyd i'r wraig ddwy o adenydd eryr mawr, fel yr ehedai hi i'r diffeithwch, i'w lle ei hun; lle yr ydys yn ei maethu hi yno dros amser, ac amseroedd, a hanner amser, oddi wrth wyneb y sarff.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond cafodd adenydd eryr mawr eu rhoi i'r wraig, iddi allu hedfan i'r lle oedd wedi ei baratoi iddi yn yr anialwch. Yno byddai hi'n saff allan o gyrraedd y ddraig am dair blynedd a hanner.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond rhoddwyd i'r wraig ddwy adain eryr mawr er mwyn iddi hedfan i'r anialwch i'w lle ei hun, i'w chynnal yno am amser ac amserau a hanner amser, o olwg y sarff.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhoddwyd i'r Wraig ddwy aden yr Eryr mawr, fel yr ehedai i'r anialwch, i'w lle, yn yr hwn y maethir hi am amser, ac amseroedd, a hanner amser, oddi wrth wyneb y Sarph.