Revelation 12:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar sarph y vwroedd oe safn allan ar ol y wreic ddwr mal llif ddvvr, ar veder cael y dwyn hi ffwrð gan y llif ddvvr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bwriodd y sarph o’i safn, ar ol y wraig, ddwfr fel afon, fel y gwnai iddi ei dwyn gan yr afon.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A bwriodd y sarff o’i safn ddwfr fel afon ar ôl y wraig i beri ei chludo ymaith gyda’r llif.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r sarff a fwriodd allan o'i safn, ar ôl y wraig, ddwfr megis afon, fel y gwnâi ei dwyn hi ymaith gyda'r afon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r sarff yn chwydu dŵr fel afon i geisio dal y wraig a'u hysgubo i ffwrdd gyda'r llif.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Poerodd y sarff o'i genau afon o ddu373?r ar l y wraig, i'w hysgubo ymaith gyda'r llif.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Sarph a fwriodd allan o'i safn ar ol y Wraig ddwfr megys afon, fel yr achosai ei dwyn hi ymaith gyda'r ffrydlif.