Revelation 12:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r ddayar y cynorthwyoedd y wreic, ar tir agoroeð ei geneu, ac y lyngcoeð y llif ddvvr, yr hwn y vwroedd y ddreic allan oe safn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chymmorth a roes y ddaear i’r wraig; ac agorodd y ddaear ei genau, a llyngcodd yr afon yr hon a fwriodd y ddraig o’i safn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chynorthwyodd y ddaear y wraig; agorodd y ddaear ei safn a llyncodd yr afon a fwriodd y ddraig o’i safn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ddaear a gynorthwyodd y wraig; a'r ddaear a agorodd ei genau, ac a lyncodd yr afon, yr hon a fwriodd y ddraig allan o'i safn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma'r ddaear yn helpu'r wraig drwy agor a llyncu yr afon oedd y ddraig wedi ei chwydu o'i cheg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond rhoes y ddaear ddihangfa i'r wraig: agorodd y ddaear ei genau a llyncu'r afon a boerodd y ddraig o'i genau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r ddaear a gynorthwyodd y Wraig, a'r ddaear a agorodd ei safn, ac a lyncodd yr afon yr hon a fwriodd y Ddraig allan o'i safn.