Revelation 12:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ llidio a oruc y ddreic yn erbyn y wreic, a’ myned y wnaeth ef y rryfely yn erbyn gweddillion y hilogaeth hi, yrrein ydynt yn cadw gorchmyney Dyw, ac ysydd a thystolaeth Iesu Christ ganthynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A llidodd y ddraig wrth y wraig, ac aeth ymaith i wneuthur rhyfel â’r lleill o’i had hi, y rhai sy’n cadw gorchymynion Duw ac yn dal tystiolaeth Iesu; a safodd ar dywed y môr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac aeth ymaith i ryfela â’r gweddill o’i had hi sy’n cadw gorchmynion Duw a dal tystiolaeth Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac a aeth i wneuthur rhyfel â'r lleill o'i had hi, y rhai sydd yn cadw gorchmynion Duw, ac sydd â thystiolaeth Iesu Grist ganddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y ddraig yn wyllt gynddeiriog gyda'r wraig, ac aeth allan i ryfela yn erbyn gweddill ei phlant — yn erbyn y rhai sy'n ufudd i orchmynion Duw ac yn dal ati i dystio i Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac aeth ymaith i ryfela yn erbyn gweddill ei phlant hi, y rhai sy'n cadw gorchmynion Duw ac yn glynu wrth dystiolaeth Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A llidiodd y Ddraig wrth y Wraig, ac a aeth ymaith i wneuthur rhyfel â'r gweddill o'i hâd hi, y rhai sydd yn cadw gorchymynion Duw ac yn dal tystiolaeth Iesu.