Revelation 12:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ae gynffon ef y dynoedd trayan ser y nef, ac y bwroedd hwynt yr ddayar. Ar d d reic y safoedd gair bron y wreic, yr hon ydoedd yn barod y ga el yscar llaw, y vwytta y phlentyn hi, yn hwy nac y genyd ef,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’i chynffon sy’n tynu traian ser y nef, a bwriodd hwynt i’r ddaear. A’r ddraig a safodd ger bron y wraig ar fedr esgor, fel, pan esgorai, ei phlentyn y bwyttai.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a llusg ymaith ei chynffon draean sêr y nef, a bwriodd hwynt i’r ddaear. A safodd y ddraig o flaen y wraig a oedd ar fin esgor, i lyncu ei phlentyn pan esgorai arno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i chynffon hi a dynnodd draean sêr y nef, ac a'u bwriodd hwynt i'r ddaear. A'r ddraig a safodd gerbron y wraig yr hon ydoedd yn barod i esgor, i ddifa ei phlentyn hi pan esgorai hi arno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma gynffon y ddraig yn ysgubo un rhan o dair o'r sêr o'r awyr ac yn eu taflu i'r ddaear. Safodd y ddraig o flaen y wraig oedd ar fin geni plentyn, yn barod i lyncu ei phlentyn yr eiliad y byddai yn cael ei eni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ysgubodd ei chynffon draean o sr y nef a'u bwrw i'r ddaear. Safodd y ddraig o flaen y wraig oedd ar fin esgor, er mwyn llyncu ei phlentyn ar ei eni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a'i chynffon hi sydd yn tynnu trydedd ran sêr y nef, ac a'u bwriodd hwynt i'r ddaear. A'r Ddraig a safodd ger bron y Wraig oedd ar fedr esgor, i ddifa ei phlentyn hi pan esgorai hi arno.