Revelation 12:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ mab‐ wr y aned yddi, yr hwn y rreoley yr holl nasioney a gwialen hayarn: ay mab y gymer sp wyd y vynydd at Ddyw ac at y eisteddle ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac esgorodd hi ar fab, gwrryw, yr hwn sydd ar fedr bugeilio’r holl genhedloedd â gwialen haiarn. A chipiwyd ei phlentyn at Dduw ac at Ei orsedd-faingc;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac esgorodd ar fab, gwryw, y sydd i fugeilio’r holl genhedloedd â gwialen haearn, a chipiwyd ei phlentyn at Dduw ac at ei orsedd ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hi a esgorodd ar fab gwryw, yr hwn oedd i fugeilio'r holl genhedloedd â gwialen haearn: a'i phlentyn hi a gymerwyd i fyny at Dduw, ac at ei orseddfainc ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd y wraig fab — bachgen fydd yn teyrnasu dros yr holl genhedloedd gyda theyrnwialen haearn. Dyma'r plentyn yn cael ei gipio i fyny at Dduw ac at ei orsedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Esgorodd hi ar blentyn gwryw, hwnnw sydd i lywodraethu'r holl genhedloedd gwialen haearn; ond cipiwyd ei phlentyn at Dduw a'i orsedd ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hi a esgorodd ar fab gwrryw, yr hwn sydd ar fedr bugeilio yr holl genhedloedd â gwialen haiarn: a chipiwyd ei phlentyn hi i fyny at Dduw, ac at ei Orsedd ef;