Revelation 12:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar wreic y giloedd yr diffeyth lle may gyf le gwedy Ddyw y barottoi yddi, mal y gal’ent y phorthi hi yno mil o ddiwarnodey a thrigen a doy cant. Yr Epistol ar ddydd Mihacael.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’r wraig a ffodd i’r anialwch, lle y mae ganddi yno le a barottowyd oddiwrth Dduw, fel yno y porthent hi fil a deucant a thrugain o ddyddiau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A ffodd y wraig i’r anialwch, lle y mae iddi fan wedi ei baratoi gan Dduw, fel y porthont hi yno fil deucant a thrigain o ddyddiau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r wraig a ffodd i'r diffeithwch, lle mae ganddi le wedi ei baratoi gan Dduw, fel y porthent hi yno fil a deucant a thri ugain o ddyddiau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r wraig yn dianc i'r anialwch i le oedd Duw wedi ei baratoi iddi, lle byddai hi'n ddiogel am fil dau gant chwe deg diwrnod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ffodd y wraig i'r anialwch; yno y mae ganddi le wedi ei baratoi gan Dduw, i'w chynnal ynddo am ddeuddeg cant a thrigain o ddyddiau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a'r Wraig a ffôdd i'r anialwch, lle y mae ganddi yno le wedi ei barotoi gan Dduw, fel y porthent hi yno fil a deucant a thri‐ugain o ddyddiau.