Revelation 12:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ rryfel oedd yny nef, Mihangel ae Angylion ef ymladdasant yn erbyn y dreic, ar dreic ymladdoedd ef ae Angylion ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A digwyddodd rhyfel yn y nef; Michael a’i angylion a aethant i ryfela â’r ddraig; a’r ddraig a ryfelodd, ac ei hangylion;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A bu rhyfel yn y nef, Mihangel a’i angylion yn rhyfela yn erbyn y ddraig. A rhyfelodd y ddraig a’i hangylion hithau,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu rhyfel yn y nef: Michael a'i angylion a ryfelasant yn erbyn y ddraig, a'r ddraig a ryfelodd a'i hangylion hithau,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma ryfel yn cychwyn yn y nefoedd. Roedd Michael a'i angylion yn ymladd yn erbyn y ddraig. Roedd y ddraig a'i hangylion yn ymladd yn ôl,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna bu rhyfel yn y nef, Mihangel a'i angylion yn rhyfela yn erbyn y ddraig. Rhyfelodd y ddraig a'i hangylion hithau,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dygwyddodd rhyfel yn y nef: Michael a'i angelion yn rhyfela â'r Ddraig; a'r Ddraig a ryfelodd, a'i hangelion;