Revelation 12:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ bwrw allan y wneythpwyd y dreic mawr, yr hen sarph, yr hwn y elwir y cythrel, a’ Satan, yr hwn ysydd yn twyllo yr holl vyd: ys y vwrw y wneythpwyd ef yr ddayar, ae Angylion y vwrwyd allan gydac ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bwriwyd y ddraig fawr i lawr, yr hen sarph, yr hon a elwir Diafol a Satan, yr hon sy’n arwain ar gyfeiliorn y byd oll; bwriwyd hi i’r ddaear; ac ei hangylion, ynghyda hi, a fwriwyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A bwriwyd i lawr y ddraig fawr, yr hen sarff, a elwir Diafol a Satan, twyllwr yr holl fyd, bwriwyd ef i’r ddaear, a bwriwyd i lawr ei angylion gydag ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bwriwyd allan y ddraig fawr, yr hen sarff, yr hon a elwir Diafol a Satan, yr hwn sydd yn twyllo'r holl fyd: efe a fwriwyd allan i'r ddaear, a'i angylion a fwriwyd allan gydag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ddraig fawr yn cael ei hyrddio i lawr (sef yr hen sarff sy'n cael ei galw ‛y diafol‛ a ‛Satan‛ ac sy'n twyllo'r byd i gyd). Cafodd ei hyrddio i lawr i'r ddaear, a'i hangylion gyda hi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe'i bwriwyd hi, y ddraig fawr, yr hen sarff, a elwir Diafol a Satan, yr un sy'n twyllo'r holl fyd, fe'i bwriwyd i'r ddaear a'i hangylion gyda hi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bwriwyd i lawr y Ddraig fawr, yr hen Sarph, yr hon a elwir Diafol a Satan, yr hon sydd yn arwain ar gyfeiliorn y byd oll: a hi a fwriwyd i lawr i'r ddaear, a'i hangelion gyda hi.