Revelation 13:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC mi weleis enifel yn cwny or mor, a’ seith pen gantho, a dec corn, ac ar y gyrn ef dec coron, ac ar y beney ef enw dirmigedic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwelais, o’r môr bwystfil a ddaeth i fynu, a chanddo ddeg corn a saith ben, ac ar ei gyrn ddeg meitr, ac ar ei bennau enwau cabledd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwelais fwystfil yn codi o’r môr, a chanddo ddeg corn a saith ben, ac ar ei gyrn ddeg diadem, ac ar ei bennau enwau cabledd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a sefais ar dywod y môr; ac a welais fwystfil yn codi o'r môr, a chanddo saith ben, a deg corn; ac ar ei gyrn ddeg coron, ac ar ei bennau enw cabledd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a gwelais anghenfil yn dod allan o'r môr. Roedd ganddo ddeg corn a saith pen. Roedd coron ar bob un o'i gyrn, ac enw cableddus ar bob un o'i bennau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
{cf2 (12:18) (}Ac yna safodd ar dywod y mr.{cf2)} A gwelais fwystfil yn codi o'r mr, a chanddo ddeg corn a saith ben, ac ar ei gyrn ddeg diadem, ac ar bob un o'i bennau enw cableddus.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hi a safodd ar dywod y môr. A gwelais Anghenfil yn dyfod i fyny o'r môr, a chanddo ddeg corn a saith ben, ac ar ei gyrn ddeg teyrn‐goron, ac ar ei bennau enwau cabledd.