Revelation 13:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’s tywys neb y gaethiwed, efo eiff y gathiwed: as lladd neb a chleddey, a chleddey y lleddir: llyma’r goddefeint, a’ ffydd y Sainct.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os yw neb i gaethiwed, i gaethiwed y cilia; os â chleddyf y lladd neb, y mae rhaid iddo ef gael â chleddyf ei ladd. Yma y mae amynedd a ffydd y saint.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os yw neb i’w gaethiwo, i gaethiwed yr â; os lladd neb â chleddyf, rhaid yw ei ladd yntau â chleddyf. Yn hyn y mae amynedd a ffydd y saint.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os yw neb yn tywys i gaethiwed, efe a â i gaethiwed: os yw neb yn lladd â chleddyf, rhaid yw ei ladd yntau â chleddyf. Dyma amynedd a ffydd y saint.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y rhai sydd i gael eu caethiwo, byddan nhw'n cael eu caethiwo. Y rhai sydd i gael eu lladd â'r cleddyf, byddan nhw'n cael eu lladd â'r cleddyf. Mae hyn yn dangos bod rhaid i bobl Dduw ddangos dycnwch a bod yn ffyddlon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Os yw rhywun i'w gaethiwo, fe'i caethiwir. Os yw rhywun i'w ladd 'r cleddyf, fe'i lleddir 'r cleddyf." Yma y mae angen dyfalbarhad a ffydd y saint.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os oes neb i fyned i gaethiwed, y mae yn myned iddo; Os bydd i neb ladd â'r cleddyf, rhaid ei ladd yntau â'r cleddyf. Dyma ddewr‐amynedd a ffydd y Saint.