Revelation 13:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi edrycheis ar enifel arall yn cwny or ðayar, a doy corn oedd gantho yn debic yr Oen, ond yn dwedyd yn debic yr dreic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwelais fwystfil arall yn dyfod i fynu o’r ddaear; a chanddo yr oedd dau gorn tebyg i oen, a llefarai fel draig:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna gwelais fwystfil arall yn codi o’r ddaear, ac yr oedd ganddo ddau gorn fel oen, a siaradai fel draig.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a welais fwystfil arall yn codi o'r ddaear; ac yr oedd ganddo ddau gorn tebyg i oen, a llefaru yr oedd fel draig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwelais anghenfil arall wedyn, yn codi o'r ddaear. Roedd ganddo ddau gorn yr un fath ag oen, ond roedd yn swnio fel draig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelais fwystfil arall yn codi allan o'r ddaear, ac yr oedd ganddo ddau gorn fel oen, ond yn llefaru fel draig.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gwelais Anghenfil arall yn dyfod i fyny o'r ddaear, ac yr oedd ganddo ddau gorn tebyg i oen, a llefarai fel draig.